FOR THE ENGLISH VERSION CLICK HERE
SWANSEA BAY ASYLUM SEEKERS SUPPORT GROUP
C/o The Retreat, 2 Humphrey Street, Swansea SA1 6BG
www.hafan.org

DATGANIAD I’R WASG Mehefin 3 2006
Bydd llyfr newydd gan ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn Ne Cymru yn cael ei lansio ar Dydd Mawrth Mehefin 13 yng Nghanolfan Dylan Thomas, Abertawe.
Teitl y llyfr yw Gŵyl y Blaidd / The Festival of the Wolf.Mae ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn ne Cymru sy’n hanu o dros 20 o wledydd gwahanol ac sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd, Abertawe a Chasnewydd. Mae’n cynnwys hefyd ddetholiadau o lenyddiaeth berthnasol o Gymru dros gyfnod o fil o flynyddoedd, ac eitemau gan ffoaduriaid a ddaeth i Gymru i osgoi digwyddiadau megis Newyn Mawr Iwerddon a Holocost y Natsiaid.
Daw teitl y llyfr o gerdd gan y newyddiadurwr o Algeria, Adel Guémar, sydd hefyd yn fardd arobryn ac sydd bellach yn byw yn Abertawe. Mae ei gerdd yn sôn am gyflafan yn 1988 pan gafodd 500 o bobl gyffredin eu lladd gan fyddin Algeria.
Mae’r llyfr wedi ei fwriadu i fod o ddefnydd i athrawon a myfyrwyr ac ar gyfer pawb sydd â diddordeb mewn materion megis amrywiaeth diwylliannol a mewnfudo yn y cyd-destun Cymreig, boed hynny yn y gorffennol neu yn y presennol.
Gwesteion amlwg yn y lansiad:
- Aled Edwards (cadeirydd Cyngor Ffoaduriaid Cymru a Cytun)
- Y Cynghorydd Gerald Clement (dirprwy arweinydd Cyngor Abertawe
- Andrew Davies AC
Darperir adloniant gan::
- Alice Salomon cantores (oed13), enillydd gwobrau gwirfoddoli’r Evening Post a SWALEC
- Mike Da Costa canwr gwlad o Zimbabwe sydd bellach yn by wyn Abertawe
- Fflur Dafydd. y gantores a’r gyfansoddwraig o Gymru (mae gan fam Fflur, y bardd enwog Menna Elfyn, gerdd yn y llyfr; mae Fflur yn dysgu ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Abertawe)
- Kwrdistan cerddorion Kwrdaidd o Abertawe,
Bydd y digwyddid yn cychwyn am 7.30 pm. Mynediad am ddim I bawb. Darperir lluniaeth rhad-ac-am-ddim ac adloniant I blant.
Mae’r llyfr a’r lansiad yn cael eu hariannu gan Wythnos Ffoaduriaid Cymru ac Arian i Bawb.
Cysylltiadau:
Tom Cheesman 077364080644 (DS: dramor tan Fehefin 5) (trysorydd SBASSG, darlithydd ym Mhrifysgol Abertawe)
Sylvie Hoffmann 07742578788 (llenor o Ffrainc, storϊwraig, athrawes ac artist, yn byw ym Mhontardawe)
Grahame Davies 07769795529 (llenor a darlledwr Cymraeg a Saesneg, yn byw yng Nghaerdydd)
Adel Guemar 07768322404 (newyddiadurwr a bardd o Algeria, yn byw yn Abertawe)
NODIADAU I OLYGYDDION
Mehefin 19-25 yw Wythnos Ffoaduriaid Cymru. Am fanylion am ddigwyddiadau eraill yng Nghymru gweler www.refugeeweek.org.uk
Dyma’r pedwerydd cyhoeddiad blynyddol gan Lyfrau Hafan, sydd yn codi arian at Grwp Ceiswyr Lloches Bae Abertawe, (SBASSG) grwp o wirfoddolwyr sy’n cael ei redeg ar y cyd gan ffoaduriaid/ceiswyr lloches a phobl leol eraill.
Mae’n rhedeg sesiynau galw-i-mewn wythnosol yn Abertawe ar gyfer ceiswyr lloches a ffoaduriaid, ac yn trefnu prosiectau eraill i groesawu newydd-ddyfodiaid i’r ddinas ac i godi ymwybyddiaeth am faterion ceiswyr lloches a ffoaduriaid.
Mae’r llyfr newydd wedi ei olygu gan Tom Cheesman, Sylvie Hoffmann a Grahame Davies.
Mae’n cael ei gyhoeddi ar y cyd gan Lyfrau Hafan a’r cyhoeddwyr o Aberteifi, Parthian, gyda chymorth grant cyfieithu gan Gyngor Llyfrau Cymru. Cafodd y cyfieithiadau i’r Gymraeg ac allan o’r Gymraeg eu gwneud gan Grahame Davies gyda Heini Gruffudd.
Dyma fel y mae Grahame Davies yn disgrifio’r llyfr a’i amcanion:
“Ffoaduriaid. Ffenomen newydd yng Nghymru, neu brofiad hen gyfarwydd? Problem - neu gyfle?
Mae'r casgliad hwn o waith gan ffoaduriaid yng Nghymru yn holi rhai cwestiynau caled; mae'n herio rhagfarnau a rhagdybiaethau a ffurfiwyd gan driniaeth arwynebol y wasg.
Yma, mae dwsinau o lenorion a ddaeth i Gymru i osgoi erledigaeth neu galedi yn dweud eu profiadau: yn Iran, Cameroon, Swdan, Algeria, Zimbabwe, a llawer o leoedd eraill lle mae rhyddid yn brin.
Dyma'r bobl real y tu ôl i'r penawdau breision. Pobl y mae eu profiad bywyd yn gwneud i broblemau'r rhan fwyaf o bobl ymddangos yn bitw o'u cymharu. Pobl sydd wedi goresgyn anawsterau nad yw'r rhan fwyaf ohonom ond yn eu profi mewn hunllefau. Pobl sydd yn cyfoethogi bywyd eu gwlad newydd tra'n herio ei dybiaethau ar yr un pryd.
Mae eu gwaith wedi ei lefeinio gyda darnau gan lenorion eraill o'r gorffennol sydd wedi recordio profiadau ffoaduriaid yng Nghymru, gan roi perspectif a chyd-destun i waith y llenorion cyfoes.
Yma, maen nhw'n siarad yn onest. Weithiau'n ddig. Weithiau'n dorcalonnus. Ond bob amser yn afaelgar. “
Press Release 3rd June 2006
‘FESTIVAL OF THE WOLF’ BOOK LAUNCH
A new book by refugees and asylum seekers in South Wales will be launched on Tuesday June 13 at the Dylan Thomas Centre, Swansea.
Called ‘Gŵyl y Blaidd / The Festival of the Wolf’, the book includes poems and stories in both English and Welsh written by asylum seekers and refugees from more than 20 different countries who are now living in Swansea, Cardiff and Newport. It also has excerpts from Welsh literature over the past 10 centuries, by and about Refugees who came to Wales fleeing events such as the Irish Famine and the Nazi Holocaust.
The book’s title comes from a poem by the Algerian journalist and prize-winning poet, Adel Guémar, who now lives in Swansea. His poem is about a massacre of over 500 civilians committed by the Algerian army in Algiers in 1988.
The book is designed to be useful for teachers and students, and everybody interested in cultural diversity in Wales and immigration to Wales, past and present.
Guests of honour at the book launch will be:
- Aled Edwards, Chair of the Welsh Refugee Council and of Churches Together in Wales
- Councillor Gerald Clement, Deputy Leader, City and County of Swansea Council
- Andrew Davies, AM
Entertainment will be provided by
- Alice Salomon (age 13), singer and Evening Post / SWALEC volunteer prize-winner
- Mike Da Costa, Zimbabwean country singer now based in Swansea
- Fflur Dafydd , Welsh singer-songwriter (Fflur's mother, renowned poet Menna Elfyn, has a poem in the book; Fflur teaches creative writing at Swansea University)
- Kwrdistan, a group of Kurdish musicians based in Swansea
The event will begin at 7.30pm. Entry is free and open to all. There will be a free buffet and separate entertainment for children.
The book and the launch event are funded by Refugee Week Wales and Awards 4 All.
For interviews and further information, please contact:
Tom Cheesman 077364080644 (SBASSG Treasurer, Swansea University Lecturer) (NB: Not available until 5 June)
Adel Guemar 07768322404 (Journalist and Poet from Algeria, lives in Swansea)
Grahame Davies 07769795529 (Writer and Broadcaster in Welsh and English, lives in Cardiff)
Sylvie Hoffmann 07742578788 (French-born writer, storyteller, teacher and artist, lives in Pontardawe)
NOTES FOR EDITORS
Refugee Week is 19-25 June. For details of other events in Wales see www.refugeeweek.org.uk
This is the fourth annual publication by Hafan Books, raising funds for Swansea Bay Asylum Seekers Support Group (SBASSG). More details at www.hafan.org .
SBASSG is an all-voluntary group run jointly by refugees / asylum seekers and other local people.
SBASSG runs weekly drop-ins in Swansea for asylum seekers and refugees, and other projects designed to welcome newcomers to the city and raise awareness of refugee and asylum issues.
The new book has been edited by Tom Cheesman, Sylvie Hoffmann and Grahame Davies. It is co-published by Hafan Books and Cardigan-based publisher Parthian Books, with a grant from the Welsh Books Council for translations. The translations from Welsh and into Welsh were done by Grahame Davies with Heini Gruffudd.
Here's how Grahame Davies describes the book and its aims:
“Refugees. A new phenomenon in Wales? Or an old experience? A problem? Or an opportunity?
This anthology of writing by refugees in Wales asks some difficult questions, challenging preconceptions and attitudes formed by superficial media coverage.
In it, dozens of writers who have come to Wales to escape persecution or hardship, tell of their experiences: in Cameroon, Iran, Sudan, Algeria, Zimbabwe, and many other places where freedoms are curtailed.
These are the real people behind the lurid headlines. People whose life experience makes most people's problems seem trivial by comparison. People who have overcome adversities most of us would only encounter in nightmares. People who are enriching the life of the host country even as they challenge its assumptions.
Their work is interspersed with that of other writers throughout history who have recorded refugee experiences in Wales, giving further perspective and context to the contemporary writers' works.
Here they speak honestly. Sometimes angrily. Sometimes heartbreakingly. But always compellingly.”
ENDS